Derbynnydd / Cynorthwyydd Gweinyddol - Receptionist / Administration Assistant - #1691735
Welsh National Opera Ltd

Tymor Sefydlog am 12 Mis
20 awr yr wythnos
Mae WNO yn rhannu pŵer opera fyw a cherddoriaeth glasurol gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol achlysurol i ddarparu cefnogaeth weinyddol i’r Gweinyddwr CTS. Cynorthwyo gyda rheolaethau ariannol ac anariannol yn y busnes a chefnogi gyda’r gwaith o reoli gwasanaethau cyffredinol i’r safle (diogelwch, cyfleustodau, etc.) a chyflenwadau cyffredinol i’r busnes.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
- Darparu cefnogaeth weinyddol lawn i’r Gweinyddwr CTS a gweddill y Tîm Rheoli.
- Ateb galwadau ffon a dosbarthu i'r lle cywir.
- Croesawu holl westeion a 3ydd partïon wrth iddynt gyrraedd y safle a’u cyfeirio’n briodol.
- Archebu eitemau stoc ar gyfer yr adran adeiladu a’r adran celf golygfeydd, yn ôl yr angen.
- Coladu a chofnodi taflenni amser wedi’u cwblhau i mewn i gronfa ddata CTS yn gywir bob dydd Llun a’i anfon at yr adran Gyflogres.
- Dosbarthu taflenni amser gwag i staff llawr gwaith bob dydd Mawrth.
- Bod yn bwynt cyswllt i’r CTS gofrestru problemau TG, ac yna eu trosglwyddo i’r adrannau cywir.
- Cysoni anfonebau yn erbyn incwm / gwariant.
- Cysoni ffurflenni hawlio treuliau a chyflwyno cysoniadau cardiau credyd.
- Cadw a chynnal cofnodion hyfforddi.
- Cysylltu â Gweinyddwr i sicrhau bod cofnodion yswiriant ac archwilio’n gyfredol.
- Ymddbeh yn unol â'n gwerthoedd.
- Cynnal cyfrinachedd a chadw at ganllawiau diogelu data a chanllawiau cysylltiedig lle bynnag sy'n briodol.
Beth fydd ei angen arnoch?
- Safon dda o addysg gyffredinol (TGAU Saesneg a Mathemateg Gradd C neu uwch).
- Profiad o Weinyddiaeth Swyddfa.
- Sgiliau trefnu, gweinyddu a rhifol rhagorol.
- Canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid a gwasanaeth cleientiaid.
- Sgiliau rheoli amser rhagorol.
- Sylw i fanylion.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol.
- Sgiliau TG rhagorol (Pecynnau Microsoft Office – Word, Excel a Databases).
- Gweithio’n galed ac yn egnïol; yn hyblyg ac yn gallu addasu.
- Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac ar eich menter eich hun yn ogystal â fel aelod o dîm.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
Gwyliau Blynyddol
Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata am oriau rhan-amser) bob blwyddyn gwyliau llawn sy'n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Os ydych chi'n chwilio am yr her nesaf, yna gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â *************@wno.org.uk
#J-18808-Ljbffr
How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resumeSimilar jobs
Production Planner / Scheduler
Sales Assistant - Part Time
Stylist
