Cyhoeddwr / Cyfarwyddwr Cyflwyno ar y Teledu - #1725155
BBC

Pecyn Swydd
Band : C
Cyflog : £37,800 to £40,800 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad
Lleoliad : Caerdydd
Mae sgiliau yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role
Cyflwyniad i'r Swydd
Mae Cyflwyno ar y Teledu BBC Cymru Wales yn gyfrifol am ddarlledu tair o sianelau teledu Cymru, sef BBC One Wales, BBC Two Wales ac S4C, o’r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n chwilio am Gyhoeddwr/Cyfarwyddwr i ymuno â’r tîm ac i weithio’n bennaf ar ddarlledu S4C, gan weithredu’r system awtomeiddio darlledu a systemau eraill i sicrhau darlledu llyfn a chywir.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg â chydweithwyr a chyflenwyr rhaglenni yn S4C a’r BBC yn hanfodol, ond ni fydd gofyn i chi wneud cyhoeddiadau byw ar yr awyr yn Gymraeg.
Prif Gyfrifoldebau
Y Cyhoeddwr/Cyfarwyddwyr sy’n rhedeg y gwaith o ddarlledu ein sianeli teledu, gan weithio shifftiau fel rhan o dîm bach ar rota 365. Maen nhw’n gweithio ‘ar eu liwt eu hunain’ yn yr ystafell reoli, gan weithredu’r system awtomeiddio darlledu i sicrhau bod rhaglenni, hyrwyddiadau rhaglenni, graffeg, cyhoeddiadau byw a rhai a recordiwyd, isdeitlau, sain-ddisgrifiadau a mwy yn cael eu darlledu yn ôl y bwriad. Mae hyn yn cynnwys cael rhagolwg ar gynnwys a’i wirio, a chysylltu â chydweithwyr technegol a’r adran gynhyrchu cyn darlledu er mwyn gwneud newidiadau lle bo angen. Gwneir hyn i sicrhau bod yr amserlen ar y trywydd iawn, a bod y gwyliwr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau.
Ai chi yw'r person cywir?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darlledu byw, dawn i ddysgu defnyddio systemau technegol newydd, a’ch bod yn ardderchog am roi sylw i fanylion a chywirdeb, efallai mai chi yw’r person rydyn ni’n chwilio amdano. Bydd gennych brofiad o ddarlledu neu brofiad gweithredol tebyg, a byddwch yn gyfforddus yn gweithio ar eich pen eich hun ac o dan bwysau.

How to apply
To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.
Post a resumeSimilar jobs
Sales Associate (Full Time - 40 Hours) - Cardiff
Clinical Assessor

Senior Landscape Architect