Cynorthwy-ydd Addysgu Gradd 3 - #1621700

Eteach


Date: 4 days ago
City: Cardiff
Contract type: Full time
Work schedule: Full day
Eteach


Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi sawl Cynorthwy-ydd Addysgu brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r Tîm Cynnal Dysgu.


Gradd 3 SCP 3-6 (£24,806- £26,333 pro rata*) nodwch ein bod yn aros am dyfarniad cyflog


Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gan bobl sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant neu ddarpariaethau addysgol eraill.


Gall hyn fod yn gyfle ardderchog i graddedigion sydd yn ystyried gyrfa dysgu ond yn dymuno cael profiad o weithio mewn ysgol yn y lle cyntaf


Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol ac awtistiaeth. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg.


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.


Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau hanfodol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio’n achlysurol yn yr Ardal Cynnal Dysgu gyda disgyblion sydd ag anawsterau amrywiol, gan gynnwys rhai mwy heriol eu hymddygiad sydd angen mewnbwn 1:1 neu mewn grŵp bach.


Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth cydweithwyr o fewn y Tîm Cynnal Dysgu, a phob cyfle i ddilyn trywydd diddordeb penodol o fewn y swydd


Amodau gwaith: Dydd Llun i Dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol yn unig gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant mewn swydd. Oriau arferol 8.15am – 3.15pm




Mae Ysgol Plasmawr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.


Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.



How to apply

To apply for this job you need to authorize on our website. If you don't have an account yet, please register.

Post a resume

Similar jobs

Global Medical Director - Oncology (New Products Strategy)

Pharma Partners Recruitment Ltd,
1 hour ago
Global Medical Director – Oncology External Innovation & New Products Strategy This position is to be based in London or Paris. Sat within the Oncology Global Medical Affairs team, this role will act as the medical and scientific expert in...

Product Designer

Arrows,
1 hour ago
This candidate will have a strong ability to take client ideas and create an attractive product based on their needs. This candidate should feel comfortable creating prototypes and communicating with internal teams in order to deliver wholesome solutions. The candidate...

Senior Data Engineer

Wiltshire Farm Foods,
22 hours ago
Overview apetito has been on an exciting journey to embed data at the heart of strategy and the data analytics team is leading the journey. We are exploring apetito’s rich data assets with the exciting new technologies and tools that...